Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mawrth 4-10

SALMAU 16-17

Mawrth 4-10

Cân 111 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. “Jehofa yw Fy Ffynhonnell Daioni”

(10 mun.)

Mae cyfeillgarwch â’r rhai sy’n gwasanaethu Jehofa yn dod â hapusrwydd inni (Sal 16:​2, 3; w18.12 23 ¶11)

Mae gwybod ein bod ni’n ffrindiau â Jehofa yn dod â llawenydd inni (Sal 16:​5, 6; w14-E 2/15 29 ¶4)

Mae cael ein gwarchod yn ysbrydol gan Jehofa yn gwneud inni deimlo’n ddiogel (Sal 16:​8, 9; w08-E 2/15 3 ¶2-3)

Fel Dafydd, rydyn ni’n mwynhau bywyd ystyrlon gan mai addoli Jehofa, ein Ffynhonnell daioni, yw’r peth pwysicaf yn ein bywydau.

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Sut mae fy mywyd yn well na chyn dod i adnabod Jehofa?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 17:8—Beth yw ystyr y term “cannwyll dy lygad”? (it-2-E 714)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 17:​1-15 (th gwers 5)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(1 mun.) O DŶ I DŶ. Cynigia’r gwahoddiad i’r Goffadwriaeth. (th gwers 11)

5. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) O DŶ I DŶ. Cynigia’r gwahoddiad i’r Goffadwriaeth. Ar ôl i’r person ddangos diddordeb, cyflwyna a thrafod y fideo Cofio Marwolaeth Iesu. (th gwers 9)

6. Dechrau Sgwrs

(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cynigia’r gwahoddiad i’r Goffadwriaeth. (th gwers 2)

7. Gwneud Disgyblion

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 20

8. Sut Gallwn Ni Baratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?

(15 mun.) Trafodaeth.

Yn unol â gorchymyn Iesu, byddwn ni’n goffáu ei farwolaeth ar nos Sul, Mawrth 24. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle inni gofio’r ddau fynegiant mwyaf o gariad a fu erioed. (Lc 22:19; In 3:16; 15:13) Sut gallwn ni baratoi at yr achlysur arbennig hwn?

  • Cymera ran frwdfrydig yn ymgyrch y Goffadwriaeth i wahodd pobl i’r anerchiad arbennig a’r Coffadwriaeth. Gwna restr o bobl rwyt ti eisiau eu gwahodd. Os yw rhai ohonyn nhw yn byw y tu allan o dy diriogaeth di, edrycha ar jw.org er mwyn darganfod yr amser a lleoliad y cyfarfodydd sy’n cael eu cynnal yn eu hardal nhw

  • Gwna fwy o weinidogaeth yn ystod y misoedd Mawrth ac Ebrill. Elli di arloesi’n gynorthwyol gyda’r nod o wneud un ai 15 neu 30 awr?

  • Ar Fawrth 18, dechreua ddarllen am ddigwyddiadau pwysig a ddigwyddodd yn ystod wythnos olaf Iesu pan oedd ef ar y ddaear. Gelli di benderfynu faint i ddarllen bob dydd o’r “Rhaglen Darllen y Beibl Coffadwriaeth 2024” ar dudalennau 6-7

  • Ar ddiwrnod y Goffadwriaeth, gwylia raglen Addoliad y Bore arbennig ar jw.org

  • Yn y Goffadwriaeth, rhoi croeso cynnes i bobl newydd a’r rhai anweithredol. Cynigia ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw ar ôl y cyfarfod. Gwna drefniadau i ymweld ag unrhyw un sydd wedi dangos diddordeb

  • Cyn ac ar ôl y Goffadwriaeth, myfyria ar y pris a dalodd Iesu

Dangosa’r FIDEO Cofio Marwolaeth Iesu. Yna, gofynna’r gynulleidfa:

Sut gallwn ni ddefnyddio’r fideo hwn yn ystod ymgyrch y Goffadwriaeth?

9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 132 a Gweddi