Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Annog y Rhai Sydd â Diddordeb i Fynychu’r Cyfarfodydd

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Annog y Rhai Sydd â Diddordeb i Fynychu’r Cyfarfodydd

PAM MAE’N BWYSIG? Mae cyfarfodydd yn achlysuron lle cawn ganu i Jehofa a’i foli. (Sal 149:1) Yn y cyfarfodydd, rydyn ni’n cael ein dysgu i wneud ewyllys Duw. (Sal 143:10) Mae’r rhai sydd â diddordeb, a Myfyrwyr y Beibl, fel arfer yn gwneud cynnydd unwaith iddyn nhw fynychu’r cyfarfodydd.

SUT I FYND ATI?

  • Rho wahoddiad iddyn nhw cyn gynted ag y bo modd. Nid oes angen disgwyl nes bod astudiaeth Feiblaidd wedi’i sefydlu.—Dat 22:17

  • Esbonia i’r person sydd â diddordeb beth i ddisgwyl a beth fydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf. Mae’r canlynol yn gallu helpu: Y gwahoddiad i’r cyfarfod, y fideo Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas?, a gwersi 5 a 7 o’r llyfryn Ewyllys Jehofa

  • Cynnig help. A oes angen cludiant neu help ar yr unigolyn i ddewis gwisg briodol? Eistedda wrth ei ymyl yn y cyfarfod, a gad iddo rannu dy gyhoeddiadau. Cyflwyna ef i eraill