Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Os Bydd Plentyn yn Ateb y Drws

Os Bydd Plentyn yn Ateb y Drws

Os bydd plentyn yn ateb y drws, dylen ni ofyn a gawn ni siarad â’i rhieni. Mae hyn yn parchu penteuluaeth. (Dia 6:20) Os bydd y plentyn yn ein gwahodd i’r tŷ, dylen ni wrthod. Os nad yw ei rieni ar gael, dylen ni ddod yn ôl rywdro arall.

Os yw’r plentyn yn hŷn, efallai yn ei arddegau hwyr, byddai’n dal yn briodol i ofyn am ei rieni. Os nad ydyn nhw ar gael, gallwn ofyn a yw ei rieni yn gadael iddo ddewis ei ddeunydd darllen ei hun. Os ydyn nhw, gallwn ni gynnig llenyddiaeth iddo neu ei gyfeirio at jw.org.

Wrth alw’n ôl ar rywun ifanc sydd â diddordeb, dylen ni ofyn a gawn ni siarad â’i rieni. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle inni esbonio pam rydyn ni’n galw, a dangos iddyn nhw’r cyngor ymarferol a dibynadwy sydd yn y Beibl. (Sal 119:86, 138) Bydd dangos parch ac ystyried y rhieni yn rhoi tystiolaeth dda, ac efallai yn agor y drws i gyfleoedd eraill i rannu’r newyddion da â’r teulu.—1Pe 2:12.