Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dechrau Sgyrsiau a All Roi Cyfle Inni Dystiolaethu

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dechrau Sgyrsiau a All Roi Cyfle Inni Dystiolaethu

Roedd Iesu yn gallu tystiolaethu’n anffurfiol wrth wraig o Samaria oherwydd iddo ddechrau sgwrs â hi. Sut gallwn ni hogi ein dawn o gychwyn sgyrsiau â dieithriaid?

  • Bydda’n gyfeillgar a siarada â phobl. Er ei fod wedi blino, cychwynnodd Iesu sgwrs jest drwy ofyn am ddiod. Felly, gelli di ddechrau gyda chyfarchiad cynnes ac yna, efallai sôn am y tywydd, neu ddigwyddiad diweddar. Cofia, y nod cyntaf yw dechrau sgwrs, felly siarada am unrhyw bwnc a all fod o ddiddordeb i’r person. Os nad yw ef neu hi’n ymateb, does dim wedi ei golli. Tria eto gyda rhywun arall. Gofynna i Jehofa am ddewrder.—Ne 2:4; Act 4:29.

  • Edrycha allan am gyfle i ddechrau sôn am y newyddion da, ond paid â rhuthro. Gad i’r sgwrs ddatblygu’n naturiol, heb wneud iddyn nhw deimlo dan bwysau i siarad, rhag ofn iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus a stopio sgwrsio. Ond paid â digalonni os yw’r sgwrs yn gorffen cyn iti gael tystiolaethu. Os yw’r syniad o geisio cyflwyno’r newyddion da yn codi ofn arnat, beth am ymarfer dechrau sgyrsiau heb y nod o dystiolaethu? [Dangosa fideo 1 a’i drafod.]

  • Ceisia greu cyfle i dystiolaethu drwy ddweud rhywbeth diffuant am dy ffydd a all ysgogi’r gwrandawr i ofyn am esboniad. Soniodd Iesu am bethau diddorol a wnaeth ysgogi’r wraig i ofyn cwestiynau. Ymhen amser, pan aeth ati i gyflwyno’r newyddion da, yr unig beth oedd ef yn ei wneud oedd ateb ei chwestiynau. [Dangosa fideo 2 a’i drafod, ac yna dangosa fideo 3 a’i drafod.]