Iesu’n Tystiolaethu Wrth Wraig o Samaria
Beth wnaeth alluogi Iesu i dystiolaethu’n anffurfiol?
-
4:7—Cychwynnodd y sgwrs drwy ofyn am ddiod o ddŵr yn hytrach na siarad am y Deyrnas neu’r ffaith mai ef oedd y Meseia
-
4:9—Wnaeth Iesu ddim ei rhagfarnu’r wraig o Samaria oherwydd ei hil
-
4:9, 12—Pan gododd hi bynciau a allai fod wedi bod yn ddadleuol, cadwodd Iesu’r sgwrs ar y trywydd iawn.—cf-E 77 ¶3
-
4:10—Cychwynnodd gydag eglureb wedi ei gymryd o fywyd dyddiol y wraig
-
4:16-19—Gwnaeth Iesu ei thrin mewn ffordd urddasol, er ei bod hi’n byw’n anfoesol
Sut mae’r hanesyn hwn yn dangos pwysigrwydd tystiolaethu’n anffurfiol?