RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH
Derbyn Help gan Gyd-Ddisgyblion
Mae Jehofa wedi rhoi brawdoliaeth o ‘gyd-Gristnogion drwy’r byd i gyd’ i’n helpu ni. (1Pe 5:9) Maen nhw’n gallu ein helpu i lwyddo wrth wynebu heriau yn y weinidogaeth. Er enghraifft, derbyniodd yr apostol Paul help gan Acwila a Priscila, Silas, Timotheus, ac eraill.—Act 18:1-5.
Sut gall cyd-ddisgyblion dy helpu di yn y weinidogaeth? Gallen nhw roi syniadau ymarferol iti ar sut i ddod dros wrthwynebiad, i wneud ail alwadau, neu i gynnig a chynnal astudiaethau Beiblaidd. Meddylia am rywun yn dy gynulleidfa a all roi’r help rwyt ti ei angen, ac yna gofynna amdano. Heb os, bydd y ddau ohonoch chi yn elwa ohono, a bydd hyn yn cyfrannu at eich llawenydd.—Php 1:25.
GWYLIA’R FIDEO CAEL LLAWENYDD DRWY WNEUD DISGYBLION—DERBYN HELP JEHOFA— EIN CYD-GRISTNOGION, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut ceisiodd Neeta annog Lili i fynychu cyfarfodydd?
-
Pam dylen ni ofyn i gyhoeddwyr eraill ddod gyda ni ar astudiaeth Feiblaidd?
-
Pa ddiddordeb oedd Lili ac Abigay yn ei rannu?
-
Pa sgiliau yn y weinidogaeth gelli di eu dysgu gan gyd-Gristnogion?