EIN BYWYD CRISTNOGOL
Cadw Dy Ffocws ar Jehofa
Pan mae’n anodd dod o hyd i waith seciwlar, gall fod yn her i gadw’r Deyrnas a chyfiawnder Duw yn gyntaf yn ein bywydau. Gallen ni gael ein temtio i dderbyn gwaith sy’n rhwystro ein gwasanaeth i Jehofa neu sy’n mynd yn erbyn egwyddorion y Beibl. Sut bynnag, gallwn fod yn sicr bod Jehofa “yn barod i helpu’r rhai sy’n ei drystio fe’n llwyr.” (2Cr 16:9) Does dim yn gallu atal ein Tad cariadus rhag ein helpu ni a darparu’r hyn sydd ei angen arnon ni. (Rhu 8:32) Felly, wrth ddewis pa fath o waith i’w wneud, rhaid inni ymddiried yn Jehofa a ffocysu ar ei wasanaeth.—Sal 16:8.
GWYLIA’R FIDEO GWEITHIO I JEHOFA Â DY HOLL GALON, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pam wnaeth Jason wrthod derbyn breib?
-
Sut mae Colosiaid 3:23, BCND yn berthnasol i ni?
-
Sut gwnaeth esiampl dda Jason effeithio ar Thomas?
-
Sut mae Mathew 6:22 yn berthnasol i ni?