Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Rhanna’r Newyddion Da Fod Byd Gwell yn Agos!

Rhanna’r Newyddion Da Fod Byd Gwell yn Agos!

Ym mis Tachwedd, byddwn ni’n gwneud ymdrech arbennig i rannu newyddion da fod byd gwell yn agos. (Sal 37:10, 11; Dat 21:3-5) Trefna dy amserlen i rannu’n llawn yn yr ymgyrch. Os wyt ti’n dewis arloesi’n gynorthwyol y mis hwnnw, gelli di ddewis gwneud un ai 30 neu 50 awr.

Paratoa i ddarllen adnod am y byd newydd gyda chymaint o bobl â phosib. Wrth ddewis adnod, ystyria beth fydd yn apelio at bobl yn dy diriogaeth. Os ydy rhywun yn dangos diddordeb ar yr alwad gyntaf, rho gopi o’r Tŵr Gwylio cyhoeddus, Rhif 2, 2021 iddo. Yna, cysyllta â nhw cyn gynted â phosib a cheisia ddechrau astudiaeth Feiblaidd yn y llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! Mae mor wych bod yn brysur yn rhannu “newyddion da” am rywbeth gwell!—Esei 52:7.

GWYLIA’R GÂN WREIDDIOL THE NEW WORLD TO COME, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa ddyfodol hyfryd mae’r ferch ifanc yn ei ddychmygu?

  • Beth yn enwedig wyt ti’n edrych ymlaen ato yn y byd newydd?

  • Sut bydd myfyrio ar dy obaith yn dy ysgogi i gael rhan lawn yn yr ymgyrch ym mis Tachwedd? —Lc 6:45