EIN BYWYD CRISTNOGOL
Hyffordda Dy Gydwybod yn Rheolaidd
Mae’n rhaid i athletwr hyfforddi ei gyhyrau yn rheolaidd i gadw ei sgiliau. Mewn ffordd debyg, mae’n rhaid inni ymdrechu’n rheolaidd i allu barnu rhwng da a drwg. (Heb 5:14) Er ei fod yn ddigon hawdd inni ddilyn penderfyniadau pobl eraill, mae’n rhaid inni ddysgu sut i feddwl a gwneud penderfyniadau dros ein hunain. Pam? Bydd pob un ohonon ni’n atebol i Dduw am ein penderfyniadau.—Rhu 14:12.
Ddylen ni ddim dibynnu ar flynyddoedd o brofiad yn y gwir i wneud penderfyniadau doeth. Mae’n rhaid inni ddibynnu’n llwyr ar Jehofa, ei Air, a’i gyfundrefn.—Jos 1:7, 8; Dia 3:5, 6; Mth 24:45.
GWYLIA’R FIDEO “CADW DY GYDWYBOD YN LÂN,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pa benderfyniad oedd o flaen Emma?
-
Pam dylen ni osgoi rhoi ein barn bersonol ym materion sy’n ymwneud â’r gydwybod?
-
Pa gyngor doeth gafodd Emma gan un cwpl?
-
Ble daeth Emma o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â’i sefyllfa?