Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH

Defnyddia Ein Hadnoddau Ymchwil

Defnyddia Ein Hadnoddau Ymchwil

Mae Jehofa yn rhoi tŵls inni ddysgu’n effeithiol, fel fideos, taflenni, cylchgronau, llyfrynnau, llyfrau, a’n prif adnodd, y Beibl. (2Ti 3:16) Mae hefyd yn darparu adnoddau ymchwil sy’n ein helpu ni i esbonio’r Ysgrythurau. Mae’r rhain yn cynnwys Watchtower Library, yr ap JW Library®, LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio, a Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa.

Bydd defnyddio ein holl adnoddau ymchwil i gloddio am drysor ysbrydol yn dod â llawenydd iti. Hyffordda dy fyfyrwyr sut i ddefnyddio’r adnoddau. Wedyn byddan nhw hefyd wrth eu boddau yn dod o hyd i atebion i’w cwestiynau am y Beibl.

GWYLIA’R FIDEO CAEL LLAWENYDD DRWY WNEUD DISGYBLION—DERBYN HELP JEHOFA—DEFNYDDIO ADNODDAU YMCHWIL, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa ddadl ynglŷn â chreadigaeth gododd Lili?

  • Ble cafodd Neeta hyd i wybodaeth ar y pwnc?

  • Mae chwilio am drysorau ysbrydol a’u rhannu ag eraill yn dod â llawenydd

    Sut dewisodd hi wybodaeth oedd yn berthnasol i Lili?

  • Sut gwnaeth defnyddio ein hadnoddau ymchwil effeithio ar Neeta?