EIN BYWYD CRISTNOGOL
Defnyddia Mwynhewch Fywyd am Byth! yn Dy Weinidogaeth
Rydyn ni wedi gwirioni ar y llyfryn a’r llyfr newydd ar gyfer cynnal astudiaethau Beiblaidd! Gweddïwn ar Jehofa i fendithio ein hymdrechion i wneud llawer mwy o ddisgyblion. (Mth 28:18-20; 1Co 3:6-9) Sut rydyn ni’n defnyddio’r adnoddau newydd?
Mae’r cwrs rhyngweithiol am y Beibl, Mwynhewch Fywyd am Byth!, yn ffordd newydd o ddysgu. Er mwyn paratoi a chymryd astudiaeth Feiblaidd, dilyna’r canllawiau canlynol. *
-
Darllena’r deunydd, a thrafoda’r cwestiynau
-
Darllena’r adnodau sydd wedi eu nodi “darllenwch,” a helpa’r myfyriwr i ddeall sut maen nhw’n berthnasol
-
Dangosa’r fideos a’u trafod gan ddefnyddio’r cwestiynau sydd wedi eu darparu
-
Ceisia gwblhau un wers ym mhob sesiwn
Yn y weinidogaeth, cynigia’r llyfryn yn gyntaf i weld a oes gan y person ddiddordeb. (Gweler y blwch “ Sut i Gynnig y Llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! ar yr Alwad Gyntaf.”) Os wyt ti’n cyrraedd diwedd y llyfryn gyda’r myfyriwr ac mae eisiau parhau, yna cynigia’r llyfr a dechreua yng ngwers 04. Os wyt ti eisoes yn astudio gyda rhywun gan ddefnyddio un o’n cyhoeddiadau astudio, dylet ti newid i’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! a phenderfynu ble ynddo i gychwyn.
GWYLIA’R FIDEO CROESO I’CH ASTUDIAETH FEIBLAIDD, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Beth bydd myfyrwyr yn ei ddysgu o’r llyfr newydd?
-
Pam dylet ti ddangos y fideo hwn i fyfyrwyr newydd?
-
Pa nodau gelli di annog y myfyriwr i’w gosod a’u cyrraedd?—Gweler y siart “ Pwrpas a Nod Pob Rhan”
^ Par. 4 NODYN: Er ei fod yn ddewisol i drafod y rhan “Darganfod Mwy” yn ystod yr astudiaeth, cymera amser i ddarllen a gwylio pob eitem wrth iti baratoi. Yna, byddi di’n gwybod beth fydd yn apelio at dy fyfyriwr ac yn ei helpu. Mae’r fersiwn electronig yn cynnwys linciau i’r fideos a deunydd ychwanegol.
PWRPAS A NOD POB RHAN |
|||
---|---|---|---|
GWERSI |
PWRPAS |
NOD Y MYFYRIWR |
|
01-12 |
Ystyried sut gall y Beibl ein helpu a sut gallwn ni ddod i adnabod ei Awdur |
Anoga’r myfyriwr i ddarllen y Beibl, i baratoi ar gyfer yr astudiaeth, ac i ddechrau mynychu cyfarfodydd |
|
13-33 |
Dysgu beth mae Duw wedi ei wneud ar ein cyfer a pha fath o addoliad sy’n ei blesio |
Ysgoga’r myfyriwr i rannu’r gwir ag eraill ac i fod yn gyhoeddwr |
|
34-47 |
Ystyried beth mae Duw yn ei ddisgwyl gan ei addolwyr |
Anoga’r myfyriwr i gysegru ei hun i Jehofa ac i gael ei fedyddio |
|
48-60 |
Dysgu sut i aros yng nghariad Duw |
Dysga’r myfyriwr sut i weld y gwahaniaeth rhwng da a drwg ac i agosáu at Dduw |