Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Hydref 7-13

SALM 92-95

Hydref 7-13

Cân 84 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Gwasanaethu Jehofa Ydy’r Ffordd Orau o Fyw!

(10 mun.)

Mae Jehofa’n haeddu ein haddoliad (Sal 92:​1, 4; w18.04 28 ¶5)

Mae’n helpu ei bobl i wneud penderfyniadau ac i fod yn hapus (Sal 92:5; w18.11 23 ¶8)

Mae’n trysori’r rhai hŷn sy’n ei wasanaethu (Sal 92:​12-15; w20.01 19 ¶18)

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Beth sy’n fy rhwystro i rhag cysegru fy hun i Jehofa a chael fy medyddio?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 92:5—Pam mae’r geiriau hyn yn ddisgrifiad da o ddoethineb Jehofa? (cl-E 176 ¶18)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 94:​1-23 (th gwers 5)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Yn ystod sgwrs, ceisia greu cyfle i sôn am dy waith fel un sy’n dysgu’r Beibl i eraill. (lmd gwers 5 pwynt 3)

5. Parhau â’r Sgwrs

(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cynigia astudiaeth Feiblaidd i rywun sydd wedi gwrthod un yn y gorffennol. (lmd gwers 8 pwynt 4)

6. Gwneud Disgyblion

(5 mun.) Trafodaeth gyda myfyriwr sydd ddim yn gwneud cynnydd. (lmd gwers 12 pwynt 5)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 5

7. Pan Mae Pryder yn Llethu Pobl Ifanc

(15 mun.) Trafodaeth.

Gall pryder effeithio ar bobl Jehofa. Er enghraifft, teimlodd Dafydd bryder sawl gwaith yn ei fywyd, ac mae llawer o’n brodyr yn wynebu’r un peth heddiw. (Sal 13:2; 139:23) Yn anffodus, mae hyn hefyd yn cynnwys rhai ifanc. Weithiau, gall pryder wneud i hyd yn oed y pethau arferol deimlo’n hynod o anodd, fel mynd i’r ysgol neu i’r cyfarfodydd. Gall hefyd arwain at byliau o banig a meddyliau hunanladdol.

Os wyt ti, fel person ifanc, yn cael dy lethu gan bryder, siarada â dy rieni neu oedolyn aeddfed arall. Gwna’n siŵr dy fod ti hefyd yn dibynnu ar Jehofa mewn gweddi. (Php 4:6) Bydd ef yn dy helpu di. (Sal 94:​17-19; Esei 41:10) Ystyria esiampl Steing.

Dangosa’r FIDEO Gwnaeth Jehofa Ofalu Amdana I. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

• Pa adnod a wnaeth helpu Steing, a pham?

• Sut gwnaeth Jehofa ofalu amdano?

Rieni, gallwch chi helpu eich plant i ddelio â phryder drwy wrando’n amyneddgar arnyn nhw, drwy ddweud eich bod chi’n eu caru nhw, a thrwy eu helpu nhw i drystio cariad Jehofa. (Tit 2:4; Iag 1:19) Dibynnwch ar Jehofa i roi’r nerth a’r cysur sydd eu hangen arnoch chi i gefnogi eich plant.

Efallai fyddwn ni ddim yn gwybod pan mae rhywun yn y gynulleidfa yn delio â gorbryder, nac yn deall ei deimladau. Ond, drwy ddangos ein cariad, gall pob un ohonon ni helpu eraill yn y gynulleidfa i deimlo’n gyfforddus.—Dia 12:25; Heb 10:24.

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 126 a Gweddi