Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Medi 16-22

SALM 85-87

Medi 16-22

Cân 41 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Mae Gweddi yn Ein Helpu Ni i Ddyfalbarhau

(10 mun.)

Gofynna i Jehofa am lawenydd (Sal 86:4)

Gofynna i Jehofa am help i aros yn ffyddlon (Sal 86:​11, 12; w12-E 5/15 25 ¶10)

Trystia y bydd Jehofa’n ateb dy weddïau (Sal 86:​6, 7; w23.05 13 ¶17-18)


GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Ydw i’n gweddïo’n fwy pan ydw i’n wynebu treialon?’—Sal 86:3.

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 86:​11, BC—Beth mae gweddi Dafydd yn ei ddysgu inni am gael calon unedig? (it-1-E 1058 ¶5)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 86:1–87:7 (th gwers 12)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cynigia astudiaeth Feiblaidd. (lmd gwers 3 pwynt 5)

5. Parhau â’r Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cynigia astudiaeth Feiblaidd i rywun sydd wedi dweud o’r blaen ei fod yn poeni am rywbeth yn y newyddion. (lmd gwers 7 pwynt 4)

6. Gwneud Disgyblion

(5 mun.) lff gwers 15 pwynt 5. Esbonia i dy fyfyriwr y trefniadau ar gyfer ei astudiaeth tra dy fod ti i ffwrdd yr wythnos nesaf. (lmd gwers 10 pwynt 4)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 83

7. Dal Ati i Bregethu

(5 mun.) Trafodaeth.

Dangosa’r FIDEO. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Pam mae’n anodd inni ddal ati i bregethu ar adegau?

  • Pam ddylen ni ddim rhoi’r ffidil yn y to?

8. Dal Ati i Gynnig Astudiaethau Beiblaidd!

(10 mun.) Trafodaeth.

A wyt ti wedi dechrau astudiaeth Feiblaidd gan ddefnyddio’r llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! yn ystod yr ymgyrch mis yma? Os felly, mae’n siŵr dy fod ti wrth dy fodd! Mae’n debyg dy fod ti wedi calonogi eraill hefyd gyda dy ganlyniadau da. Ar y llaw arall, os nad wyt ti wedi dechrau astudiaeth Feiblaidd, efallai byddi di’n teimlo bod dy ymdrechion wedi bod yn ofer. Beth gelli di ei wneud os wyt ti’n teimlo’n ddigalon?

Dangosa’r FIDEO “Rydyn Ni’n Ein Cymeradwyo Ein Hunain Fel Gweinidogion Duw . . . Drwy Amynedd”—Wrth Bregethu. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Sut gall 2 Corinthiaid 6:​4, 6 ein helpu ni os ydy’r weinidogaeth yn teimlo fel “twll du”?

  • Os nad wyt ti wedi llwyddo i ddechrau astudiaeth Feiblaidd, beth gelli di ei wneud?

Cofia, dydy llawenydd ddim yn dod o ganlyniad i’r nifer o astudiaethau sydd gen ti. Mae’n dod o wybod ein bod ni’n plesio Jehofa. (Lc 10:​17-20) Felly gwna dy orau glas yn yr ymgyrch, ‘gan wybod nad ydy dy lafur yng ngwaith yr Arglwydd yn ofer’!—1Co 15:58.

9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 138 a Gweddi