SALMAU 45-51
TRYSORAU O AIR DUW |Ni Fydd Jehofa yn Gwrthod Calon Ddrylliedig
Ysgrifennwyd Salm 51 ar ôl i’r proffwyd Nathan geryddu Dafydd am iddo bechu’n ddifrifol gyda Bathseba. Roedd cydwybod Dafydd yn ei bigo, ac roedd yn ddigon gostyngedig i gyffesu.—2Sa 12:1-14.
Pechodd Dafydd, ond roedd adferiad ysbrydol yn dal yn bosibl
51:3, 4, 8-12, 17
-
Cyn iddo edifarhau a chyffesu, roedd ei gydwybod yn ei wneud yn ddigalon dros ben
-
Roedd y poen o gael ei wrthod gan Dduw yn gwneud iddo deimlo bod ei esgyrn wedi malu
-
Roedd Dafydd yn dyheu am faddeuant ac adferiad ysbrydol, ac yn hiraethu am y llawenydd oedd ganddo o’r blaen
-
Ymbiliodd ar Jehofa i’w helpu i feithrin agwedd ufudd
-
Roedd yn sicr o faddeuant Jehofa