EIN BYWYD CRISTNOGOL
Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnyddio Fideos i Ddysgu Eraill
PAM MAE’N BWYSIG?
Mae fideos yn gallu cyffwrdd â’r galon gan apelio at y golwg a’r clyw. Mae hyn yn helpu dal sylw a chreu argraff ddofn ar y gwyliwr. Jehofa yw’r esiampl orau o ddefnyddio cymhorthion gweledol i ddysgu eraill.—Act 10:9-16; Dat 1:1.
Mae’r fideos canlynol yn atodiad defnyddiol i wersi 2 a 3 yn y llyfryn Newyddion Da: Oes Gan Dduw Enw?, Pwy Yw Awdur y Beibl?, a Sut Gallwn ni Fod yn Sicr Fod y Beibl yn Wir? Mae’r fideos Pam Astudio’r Beibl?, Beth Sy’n Digwydd ar Astudiaeth Feiblaidd?, a Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas? yn annog unigolion i astudio’r Beibl gyda ni neu ddod i gyfarfodydd y gynulleidfa. Mae modd defnyddio rhan o’r fideos hyd nodwedd i ddysgu eraill ar astudiaethau Beiblaidd.—km 5/13 3.
SUT I FYND ATI?
-
O flaen llaw, lawrlwytha’r fideo rwyt ti eisiau ei ddangos i’r deiliad
-
Paratoa gwestiwn neu ddau a gaiff ei ateb gan y fideo
-
Gwylia’r fideo gyda’r deiliad
-
Trafoda’r prif bwyntiau
RHO GYNNIG AR HYN:
-
Tro at gefn un o’n taflenni, a thynna sylw at y cod sy’n dy gysylltu â’r fideo Pam Astudio’r Beibl?
-
Dangosa’r fideo Sut Gallwn ni Fod yn Sicr Fod y Beibl yn Wir? a chynnig y llyfryn Newyddion Da, gan dynnu sylw at wers 3