SALMAU 34-37
TRYSORAU O AIR DUW |Ymddiried yn Jehofa a Gwna Ddaioni
“Na fydd yn ddig . . . na chenfigennu wrth y rhai sy’n gwneud drwg”
37:1, 2
-
Paid â gadael i lwyddiant dros dro pobl ddrwg dynnu dy sylw oddi ar dy wasanaeth i Jehofa. Canolbwyntia ar dy nodau a bendithion ysbrydol
‘Ymddiried yn Jehofa a gwna ddaioni’
37:3
-
Ymddiried yng ngallu Jehofa i dy helpu drwy unrhyw bryder neu amheuon. Bydd ef yn dy helpu i aros yn ffyddlon
-
Cadwa’n brysur yn y gwaith o bregethu newyddion da Teyrnas Dduw
‘Ymhyfryda yn Jehofa’
37:4
-
Trefna amser i ddarllen Gair Duw a myfyrio arno gyda’r nod o ddod i adnabod Jehofa yn well
‘Rho dy ffyrdd i Jehofa’
37:5, 6
-
Ymddiried yn llwyr yn nerth Jehofa i dy helpu i ymdopi ag unrhyw broblem
-
Dal ati i ymddwyn yn dda er gwaethaf unrhyw wrthwynebiad, erledigaeth, neu os cei dy gyhuddo ar gam
‘Disgwyl yn dawel am Jehofa, aros yn amyneddgar amdano’
37:7-9
-
Ceisia osgoi ymateb yn fyrbwyll, oherwydd gall hyn ddwyn dy lawenydd a dy ddiogelwch ysbrydol
‘Bydd y gostyngedig yn meddiannu’r tir’
37:10, 11
-
Ceisia addfwynder, a gobeithia’n ostyngedig yng ngallu Jehofa i gael gwared ar bob anghyfiawnder yr wyt yn ei brofi nawr
-
Cefnoga dy gyd-gredinwyr, a chysura’r isel eu hysbryd gyda’r addewid o fyd newydd Duw sydd gerllaw