Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Rieni, Rhowch y Cyfle Gorau i’ch Plant Lwyddo

Rieni, Rhowch y Cyfle Gorau i’ch Plant Lwyddo

Mae rhieni sy’n ofni Duw yn dyheu am weld eu plant yn dod yn weision ffyddlon i Jehofa. Gall rhieni eu helpu i wneud hynny drwy eu trwytho mewn dysgeidiaeth y Beibl o’u plentyndod. (De 6:7; Dia 22:6) Ydy hyn yn gofyn am hunan aberth? Yn bendant! Ond mae’r gwobrwyon yn werth yr ymdrech.—3In 4.

Gall rhieni ddysgu llawer oddi wrth Joseff a Mair. Roedden nhw’n “arfer mynd i Jerwsalem i ddathlu Gŵyl y Pasg bob blwyddyn,” er bod hyn yn gofyn am ymdrech ac yn mynd i gostio. (Lc 2:41) Mae’n amlwg eu bod nhw wedi rhoi blaenoriaeth i anghenion ysbrydol y teulu. Yn yr un modd, gall rhieni heddiw roi eu plant ar ben ffordd drwy ddefnyddio pob cyfle i’w dysgu mewn gair a gweithred.—Sal 127:3-5.

GWYLIA’R FIDEO THEY TOOK EVERY OPPORTUNITY, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut gwnaeth Jon a Sharon Schiller roi pethau’r Deyrnas yn gyntaf wrth iddyn nhw fagu teulu?

  • Pam bod rhaid i rieni addasu disgyblaeth y plant yn ôl anghenion yr unigolyn?

  • Sut gall rhieni baratoi eu plant ar gyfer profion ar eu ffydd?

  • Pa adnoddau gan gyfundrefn Jehofa wyt ti wedi eu defnyddio i helpu dy blant i dyfu’n ysbrydol?

Gwna weithgareddau ysbrydol yn flaenoriaeth i dy deulu