EIN BYWYD CRISTNOGOL
Osgoi Maglau Cymdeithasu Ar-Lein
PAM MAE’N BWYSIG? Fel y rhan fwyaf o adnoddau, gall rhwydweithiau cymdeithasol fod yn ddefnyddiol neu’n niweidiol. Mae rhai Cristnogion yn dewis peidio defnyddio gwefannau cymdeithasol. Mae Cristnogion eraill yn dewis eu defnyddio i gadw cysylltiad gyda’u teulu a’u ffrindiau. Ond, mae’r Diafol eisiau inni fod yn annoeth wrth ddefnyddio gwefannau o’r fath, a gall hyn niweidio ein henw da a’n perthynas gyda Jehofa. Fel Iesu, gallwn ddefnyddio’r egwyddorion sydd yng Ngair Duw i weld y peryglon a’u hosgoi.—Lc 4:4, 8, 12.
MAGLAU I’W HOSGOI:
-
Defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn ormodol. Mae treulio oriau di-rif yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol neu gyfryngau cymdeithasol yn gallu ein hamddifadu ni o’r amser gwerthfawr rydyn ni ei angen i wasanaethu Jehofa
Egwyddorion y Beibl: Eff 5:15, 16; Php 1:10
-
Edrych ar ddeunydd amheus. Gall edrych ar luniau pryfoclyd arwain at ddod yn gaeth i bornograffi, neu anfoesoldeb. Gall ddarllen deunydd neu flogiau gwrthgiliol danseilio dy ffydd
-
Postio sylwadau neu luniau amhriodol. Gan fod y galon yn dwyllodrus, efallai fod gan rywun duedd i bostio sylwadau neu luniau amhriodol ar rwydwaith cymdeithasol. Ond, gall hyn niweidio enw da rhywun, neu achosi iddo faglu yn ysbrydol
Egwyddorion y Beibl: Rhu 14:13; Eff 4:29
GWYLIA’R FIDEO DEFNYDDIO DY BEN WRTH GYMDEITHASU AR-LEIN, YNA YSTYRIA SUT I OSGOI’R SEFYLLFAOEDD ISOD: