Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Dilyna Esiampl Crist yn Agos

Dilyna Esiampl Crist yn Agos

Gosododd Iesu esiampl i ni ei hefelychu, yn enwedig pan ydyn ni’n wynebu treialon neu erledigaeth. (1Pe 2:21-23) Er cafodd Iesu ei sarhau, wnaeth ef byth sarhau yn ôl, hyd yn oed tra’r oedd yn dioddef. (Mc 15:29-32) Beth helpodd Iesu i ymdopi â hyn? Roedd yn benderfynol o wneud ewyllys Jehofa. (In 6:38) Canolbwyntiodd ar y “llawenydd oedd o’i flaen.”—Heb 12:2.

Sut rydyn ni’n ymateb pan ydyn ni’n cael ein cam-drin oherwydd ein ffydd? Dydy gwir Gristnogion byth yn “talu’r pwyth yn ôl.” (Rhu 12:14, 17) Pan ydyn ni’n efelychu’r ffordd wnaeth Crist ddal ati er gwaethaf dioddefaint, gallwn ni lawenhau gan ein bod ni yn plesio Duw.—Mth 5:10-12; 1Pe 4:12-14.

GWYLIA’R FIDEO JEHOVAH’S NAME IS MOST IMPORTANT, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut defnyddiodd Chwaer Pötzinger * ei hamser yn ddoeth tra oedd hi mewn cell ar ei phen ei hun?

  • Sut gwnaeth Brawd a Chwaer Pötzinger ddal ati yn ystod eu hamser mewn gwersylloedd crynhoi?

  • Beth wnaeth eu helpu i ddal ati?

Pan wyt ti’n dioddef, dilyna esiampl Crist yn agos

^ Par. 6 Mae Poetzinger yn sillafiad arall