Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Beth Fyddai Jehofa yn ei Feddwl?

Beth Fyddai Jehofa yn ei Feddwl?

Cyn gwneud penderfyniadau bach a mawr, a ydyn ni’n gofyn i ni’n hunain, ‘Beth fyddai Jehofa yn ei feddwl?’ Er na fyddwn ni byth yn gwybod popeth am feddwl Jehofa, mae Ef yn datgelu digon yn ei Air inni allu gwneud “pob math o bethau da.” (2Ti 3:16, 17; Rhu 11:33, 34) Gwneud ewyllys Jehofa oedd blaenoriaeth Iesu, ac roedd yn ei ddeall yn glir. (In 4:34) Boed i ni efelychu Iesu a gwneud ein gorau i wneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa. —In 8:28, 29; Eff 5:15-17.

GWYLIA’R FIDEO KEEP PERCEIVING JEHOVAH’S WILL (LE 19:18), AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam mae’n rhaid inni roi egwyddorion y Beibl ar waith yn ein bywyd?

  • Pa egwyddorion Beiblaidd ddylai effeithio ar ein dewis o gerddoriaeth?

  • Pa egwyddorion Beiblaidd ddylai effeithio ar ein gwisg a thrwsiad?

  • Ym mha ffyrdd eraill dylai egwyddorion y Beibl effeithio ar ein penderfyniadau?

  • Sut gallwn ni wella ein gallu i ddirnad ewyllys Jehofa?

Beth mae fy mhenderfyniadau yn ei ddatgelu am fy mherthynas â Jehofa?