Darlun Symbolaidd Sydd ag Ystyr i Ni
Defnyddiodd yr apostol Paul y “darlun” symbolaidd hwn i ddangos cymaint gwell oedd y cyfamod newydd na chyfamod y Gyfraith. O dan ofal cariadus Crist a’i gyd-etifeddion, mae gan ddynolryw y gobaith o fyw heb bechod, nac amherffeithrwydd, na galar, na marwolaeth.—Esei 25:8, 9.
HAGAR Y GAETHFERCH Israel lythrennol o dan gyfamod y Gyfraith, a Jerwsalem yn brifddinas iddi |
“PLANT” HAGAR Gwnaeth yr Iddewon, a oedd yn rhwym i gyfamod y Gyfraith, erlid Iesu a’i wrthod |
YN GAETH I GYFAMOD Y GYFRAITH Cafodd yr Israeliaid eu hatgoffa gan y Gyfraith eu bod yn gaethweision i bechod |
SARA Y WRAIG RYDD Jerwsalem uchod sef y rhan nefol o gyfundrefn Jehofa |
“PLANT” SARA Crist a’r 144,000 o Gristnogion ysbryd-eneiniog |
YN RHYDD DRWY’R CYFAMOD NEWYDD Gwnaeth ffydd yng ngwerth aberth Crist arwain at ryddid oddi wrth gondemniad y Gyfraith |