EIN BYWYD CRISTNOGOL
Beth Gelli Di ei Ddysgu gan Gristnogion Profiadol?
Mae yna frodyr a chwiorydd yn ein cynulleidfaoedd sydd wedi gwasanaethu Jehofa am ddegawdau. Gallwn ddysgu o’r ffordd maen nhw wedi ymddiried yn Jehofa. Gallwn ofyn iddyn nhw am hanes cyfundrefn Jehofa, ac am sut maen nhw wedi goroesi anawsterau gyda’i help Ef. A fedri di wahodd y rhai annwyl hyn i dy noson Addoliad Teuluol, a gofyn iddyn nhw am rannu eu profiadau?
Os wyt ti’n Gristion profiadol, bydda’n barod i ddweud wrth Gristnogion iau am y ffyrdd mae Jehofa wedi dy helpu. Rhannodd Jacob a Joseff eu profiadau ag aelodau ifanc o’r teulu. (Ge 48:21, 22; 50:24, 25) Yn nes ymlaen dywedodd Jehofa wrth benteuluoedd am ddysgu eu plant am ei weithredoedd grymus. (De 4:9, 10; Sal 78:4-7) Heddiw, gall rhieni ac eraill yn y gynulleidfa rannu â’r genhedlaeth nesaf y pethau rhyfeddol maen nhw wedi gweld Jehofa yn eu gwneud drwy ei gyfundrefn.
GWYLIA’R FIDEO MAINTAINING UNITY UNDER BAN, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut gwnaeth y gangen yn Awstria helpu ein brodyr mewn rhai gwledydd ble roedd ein gwaith o dan waharddiad?
-
Sut gwnaeth y brodyr yn y gwledydd hyn gadw eu ffydd yn gryf?
-
Pam gwnaeth llawer o gyhoeddwyr yn Rwmania adael cyfundrefn Jehofa, a sut dychwelon nhw?
-
Sut mae’r profiadau hyn wedi cryfhau dy ffydd di?