TRYSORAU O AIR DUW
“Dyma Fi; Anfon Fi”
Mae agwedd barod Eseia yn werth ei hefelychu. Dangosodd ffydd ac ymateb i’r hyn oedd ei angen, er nad oedd yn gwybod y manylion i gyd. (Esei 6:8) Ydy hi’n bosibl iti newid dy sefyllfa bersonol i wasanaethu lle mae mwy o angen am gyhoeddwyr y Deyrnas? (Sal 110:3) Wrth gwrs, mae’n rhaid “amcangyfri’r gost” o symud. (Lc 14:27, 28) Ond, bydda’n fodlon i aberthu er mwyn y gwaith pregethu. (Mth 8:20; Mc 10:28-30) Mae’r fideo Moving to Serve Where the Need Is Greater, yn ein hatgoffa bod llawer mwy o fendithion i’w cael yng ngwasanaeth Jehofa na’r aberthau a wnawn ni.
AR ÔL GWYLIO’R FIDEO, ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pa aberthau personol wnaeth aelodau o’r teulu Williams er mwyn gwasanaethu yn Ecwador?
-
Pa ffactorau gwnaethon nhw eu hystyried wrth ddewis lle i wasanaethu?
-
Pa fendithion gawson nhw?
-
Lle cei di fwy o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethu lle mae’r angen yn fwy?
YN YSTOD DY ADDOLIAD TEULUOL NESAF, TRAFODA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut gallwn ni ehangu ein gweinidogaeth fel teulu? (km-E 8/11 4-6)
-
Os nad ydyn ni’n gallu gwasanaethu lle mae mwy o angen, ym mha ffyrdd gallwn ni helpu ein cynulleidfa leol? (w16.03 3-5)