EIN BYWYD CRISTNOGOL
Addysg Ddwyfol yn Trechu Rhagfarn
Dydy Jehofa ddim yn dangos ffafriaeth. (Act 10:34, 35) Mae’n derbyn pobl “o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith.” (Dat 7:9) Felly, does dim lle yn y gynulleidfa Gristnogol i ragfarn na ffafriaeth. (Iag 2:1-4) Diolch i addysg ddwyfol, mae gennyn ni baradwys ysbrydol lle mae personoliaethau dynion wedi cael eu trawsffurfio. (Esei 11:6-9) Wrth inni weithio’n ddygn i ddiwreiddio unrhyw arlliw o ragfarn ynon ni, profwn ein bod yn efelychwyr Duw.—Eff 5:1, 2.
GWYLIA’R FIDEO JOHNY AND GIDEON: ONCE ENEMIES, NOW BROTHERS. YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pam y mae addysg ddwyfol yn well nag ymdrechion dynion i ddileu rhagfarn a gwahaniaethu ar sail hil?
-
Beth sydd yn creu argraff arnat ti am ein brawdoliaeth fyd-eang?
-
Sut mae Jehofa yn cael ei ogoneddu pan gadwn ein hundod Cristnogol?