EIN BYWYD CRISTNOGOL
Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Cyrraedd y Galon Gyda “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
PAM MAE’N BWYSIG? Mae’n rhaid i bobl ddysgu safonau Jehofa a chydymffurfio iddyn nhw er mwyn ei addoli mewn ffordd sy’n dderbyniol ganddo. (Esei 2:3, 4) Mae’r llyfr “Cariad Duw,” ein hail lyfr astudio, yn helpu myfyrwyr y Beibl i weld pa gysylltiad sydd gan egwyddorion dwyfol mewn bywyd pob dydd. (Heb 5:14) Wrth inni eu dysgu dylen ni geisio cyrraedd y galon er mwyn iddyn nhw gael y cymhelliad iawn i wneud newidiadau.—Rhu 6:17.
SUT I FYND ATI?
-
Mae eisiau inni baratoi’n dda, gan gofio anghenion y myfyriwr. Ffurfia gwestiwn safbwynt i ganfod ei deimladau a’i farn ar y deunydd.—Dia 20:5; be-E 259
-
Defnyddia’r blychau yn y llyfr i helpu dy fyfyriwr i weld y manteision o gymhwyso’r deunydd
-
Helpa dy fyfyriwr i resymu ar faterion cydwybod, ond paid â phenderfynu drosto.—Ga 6:5
-
Gan ddefnyddio tact, cei weld os oes angen help ar dy fyfyriwr i roi rhai o egwyddorion y Beibl ar waith. Dos ati i’w annog yn gariadus i wneud newidiadau ar sail ei gariad tuag at Jehofa.—Dia 27:11; In 14:31