Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Helpu’r Rhai â’r Agwedd Gywir i Ddod yn Ddisgyblion

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Helpu’r Rhai â’r Agwedd Gywir i Ddod yn Ddisgyblion

PAM MAE’N BWYSIG? Mae Jehofa yn gwneud i hadau’r gwirionedd dyfu yng nghalonnau’r rhai sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol.” (Act 13:48, NW; 1Co 3:7) Rydyn ni’n cydweithio ag ef drwy ganolbwyntio ein hymdrechion yn y weinidogaeth ar y rhai sy’n ymateb i’r hyn maen nhw’n ei ddysgu. (1Co 9:26) Mae rhaid i fyfyrwyr y Beibl ddeall bod bedydd Cristnogol yn angenrheidiol er mwyn cael eu hachub. (1Pe 3:21) Rydyn ni’n eu helpu i ddod yn ddisgyblion drwy eu dysgu nhw i wneud newidiadau yn eu bywydau, i bregethu a dysgu eraill, a chysegru eu bywydau i Jehofa.—Mth 28:19, 20.

SUT I FYND ATI:

  • Atgoffa fyfyrwyr y Beibl mai pwrpas eu hastudiaeth yw dod i adnabod Jehofa a’i blesio.—In 17:3

  • Helpa nhw i wneud cynnydd ysbrydol drwy drechu rhwystrau, fel arferion drwg a chymdeithasu amheus

  • Atgyfnertha nhw a’u hannog cyn ac ar ôl eu bedydd.—Act 14:22

GWYLIA’R FIDEO BYDD JEHOFA DDUW YN DY HELPU DI, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa bethau allai godi ofn ar rywun a’i gadw rhag ymgysegru a chael eu bedyddio?

  • Sut gall henuriaid helpu myfyrwyr y Beibl i wneud cynnydd ysbrydol?

  • Beth mae Eseia 41:10 yn ein dysgu ni am Jehofa?

  • Pa rinweddau fydd yn ein helpu i wasanaethu Jehofa mewn ffordd sy’n dderbyniol iddo, er ein bod ni’n amherffaith?

Sut rydyn ni’n cydweithio â Jehofa wrth wneud disgyblion?