Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Molwn Jehofa yn Llawen Mewn Cân

Molwn Jehofa yn Llawen Mewn Cân

Gwnaeth Paul a Silas foli Jehofa mewn cân tra oedden nhw yn y carchar. (Act 16:25) Mae’n siŵr bod eu canu wedi rhoi’r nerth iddyn nhw ddyfalbarhau. Beth amdanon ninnau heddiw? Gall caneuon ar gyfer addoli a chaneuon gwreiddiol godi ein calonnau a’n helpu ni i aros yn ffyddlon o dan dreialon. Yn fwy na hynny, maen nhw’n moli Jehofa. (Sal 28:7) Rydyn ni wedi cael ein hannog i ddysgu geiriau o leiaf rhai o’r caneuon ar ein cof. Wyt ti wedi trio hyn? Gallwn ddefnyddio ein haddoliad teuluol i ymarfer y caneuon a dysgu’r geiriau.

GWYLIA’R FIDEO CHILDREN PRAISE JEHOVAH IN SONG, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut mae canu caneuon y Deyrnas yn llesol inni?

  • Sut mae’r Adrannau Sain a Fideo yn paratoi i recordio sesiwn canu?

  • Sut mae plant a’u teuluoedd yn paratoi ar gyfer sesiwn recordio?

  • Beth yw dy hoff ganeuon y Deyrnas, a pham?