Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Bod yn Hyblyg

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Bod yn Hyblyg

PAM MAE’N BWYSIG?: Mae’r eneiniog a’r defaid eraill yn gwahodd pobl o bob math i “dderbyn dŵr y bywyd.” (Dat 22:17) Mae’r dŵr symbolaidd hwn yn cynrychioli popeth mae Jehofa wedi ei roi er mwyn achub pobl ffyddlon o afael pechod a marwolaeth. Er mwyn helpu pobl o bob cefndir a chred, mae’n rhaid inni gyflwyno’r “neges dragwyddol” mewn ffordd sy’n apelio at bob un person fel unigolyn.—Dat 14:6.

SUT I FYND ATI:

  • Dewisa bwnc ac adnod a fydd yn cyffwrdd â chalonnau y bobl yn dy diriogaeth di. Gelli di ddewis sgwrs enghreifftiol neu rywbeth sydd wedi bod yn effeithiol yn y gorffennol. Pa bynciau ac adnodau sy’n cael ymateb da? A oes yna ddigwyddiad yn y newyddion sydd ar feddyliau pobl? Beth fyddai’n apelio at ddyn neu at ddynes?

  • Wrth sgwrsio, defnyddia gyfarchion ac arferion sy’n gyffredin yn dy ardal di.2Co 6:3, 4

  • Bydda’n gyfarwydd â’r cyhoeddiadau a’r fideos yn ein Bocs Tŵls Dysgu er mwyn eu dangos i bobl sydd â diddordeb

  • Lawrlwytha wybodaeth mewn ieithoedd sy’n gyffredin yn dy diriogaeth

  • Addasa’r sgwrs i gwrdd ag anghenion pob deiliad. (1Co 9:19-23) Er enghraifft, beth fyddai dy ymateb petai deiliad yn dweud wrthyt ti ei fod wedi cael profedigaeth yn ddiweddar?

GWYLIA’R FIDEO, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa bwnc gwnaeth y cyhoeddwr ei godi ar ddechrau’r sgwrs?

  • Beth oedd yn digwydd ym mywyd y deiliad?

  • Pa adnod oedd y gorau i’w defnyddio yn yr achos yma, a pham?

  • Sut gelli di addasu dy gyflwyniad i apelio at y bobl yn dy diriogaeth?