Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

“Dyma’r Ddaear yn . . . Llyncu yr Afon”

“Dyma’r Ddaear yn . . . Llyncu yr Afon”

Ar wahanol adegau drwy hanes, mae awdurdodau seciwlar wedi helpu pobl Jehofa. (Esr 6:1-12; Est 8:10-13) Hyd yn oed yn yr oes fodern, mae’r “ddaear”—elfennau’r system sy’n fwy ffafriol—wedi llyncu “yr afon,” sef yr erledigaeth sydd wedi ei hachosi gan y “ddraig,” Satan y Diafol. (Dat 12:16) Weithiau, mae Jehofa, y “Duw sy’n achub,” yn defnyddio llywodraethwyr dynol i helpu ei bobl.—Sal 68:20; Dia 21:1.

Hyd yn oed os wyt ti wedi dy garcharu am dy ffydd, bydda’n sicr fod Jehofa yn gofalu amdanat ti! (Ge 39:21-23; Sal 105:17-20) Cofia, caiff dy ffyddlondeb ei wobrwyo ac mae’n codi calonnau dy frodyr drwy’r byd.—Php 1:12-14; Dat 2:10.

GWYLIA’R FIDEO KOREAN BROTHERS RELEASED FROM PRISON, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam cafodd miloedd o frodyr eu carcharu yn Ne Corea dros y blynyddoedd?

  • Pa ddyfarniadau yn y llys a adawodd i rai o’n brodyr gael eu rhyddhau yn fuan?

  • Sut gallwn ni helpu ein brodyr sydd wedi eu carcharu am eu ffydd mewn gwahanol wledydd?

  • Sut dylen ni ddefnyddio unrhyw ryddid sydd gennyn ni ar hyn o bryd?

  • Pwy sy’n gyfrifol am bob achos llys rydyn ni’n ei ennill?

Sut rydw i’n defnyddio fy rhyddid i?