LEFITICUS 12-13
TRYSORAU O AIR DUW |Gwersi o’r Gyfraith Ynglŷn â’r Gwahanglwyf
13:4, 5, 45, 46, 52, 57
Sut gall egwyddorion y gyfraith ynglŷn â’r gwahanglwyf ein helpu ni i ddiogelu ein hiechyd ysbrydol?
-
Dysgodd Jehofa yr offeiriaid am sut i adnabod y gwahanglwyf yn gynnar. Mae bugeiliaid Cristnogol heddiw yn ymateb yn gyflym i unrhyw un sydd angen cymorth ysbrydol.—Iag 5:14, 15
-
Roedd rhaid i’r Israeliaid ddinistrio unrhyw eitemau oedd wedi eu heintio â’r gwahanglwyf er mwyn atal yr haint rhag lledaenu. Yn hytrach na gadael i rywbeth arwain nhw i bechu, mae’n rhaid i Gristnogion hefyd fod yn barod i gael gwared arno, hyd yn oed os ydy’n werthfawr iddyn nhw. (Mth 18:8, 9) Gall hyn gynnwys pethau fel arferion, ffrindiau, neu adloniant
Sut gall Cristion ddangos ei fod yn wir eisiau derbyn help Jehofa?