LEFITICUS 14-15
TRYSORAU O AIR DUW |Mae Addoliad Pur yn Gofyn am Lendid
15:13-15, 28-31
Er mwyn aros yng nghariad Duw, mae’n rhaid inni fod yn lân ar y tu mewn ac ar y tu allan. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n glynu wrth safonau Jehofa ynglŷn â glendid corfforol, moesol, ac ysbrydol, ni waeth beth mae’r byd o’n cwmpas yn ei wneud. Rydyn ni’n osgoi cyffwrdd ag unrhyw beth mae ein Tad nefol yn ei ystyried yn aflan.
Sut rydw i’n elwa ar wrthod safonau y byd?