EIN BYWYD CRISTNOGOL
Wyt Ti’n Fodlon Gwneud Cais i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas?
Wyt ti rhwng 23 a 65 oed ac yn gwasanaethu’n llawn amser? Oes gen ti iechyd da, ac wyt ti’n gallu gwasanaethu lle mae mwy o angen? Os wnest ti ateb yn gadarnhaol, a wyt ti wedi ystyried gwneud cais i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas? Mae miloedd o gyplau priod, brodyr sengl, a chwiorydd sengl wedi gwneud cais ers y dosbarth cyntaf. Er hynny, rydyn ni angen mwy o geisiadau gan frodyr sengl. Gofynna i Jehofa i feithrin dy awydd i’w blesio ac efelychu ei Fab. (Sal 40:8; Mth 20:28; Heb 10:7) Yna, ystyria ffyrdd o leihau dy gyfrifoldebau seciwlar neu bersonol er mwyn bod yn gymwys.
Pa gyfleoedd i wasanaethu sydd wedi bod ar gael i’r rhai a gafodd yr hyfforddiant theocrataidd hwn? Mae rhai ohonyn nhw wedi eu haseinio i wasanaethu lle mae ieithoedd eraill yn cael eu siarad, neu i gael rhan yn tystiolaethu cyhoeddus metropolitan arbennig. Mae eraill bellach yn gwasanaethu fel dirprwy arolygwyr cylchdaith, arolygwyr cylchdaith, neu genhadon maes. Wrth i ti ystyried dy gyfleoedd yng ngwasanaeth Jehofa, boed i ti adlewyrchu agwedd y proffwyd Eseia pan ddywedodd “Dyma fi; anfon fi.”—Esei 6:8.
GWYLIA’R FIDEO FIELD MISSIONARIES—WORKERS IN THE HARVEST, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut mae cenhadon maes yn cael eu dewis?
-
Pa waith da mae’r cenhadon maes yn ei wneud?
-
Pa fendithion sy’n dod i’r rhai sy’n gwasanaethu fel cenhadon?