Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Sut i Ddefnyddio What Can the Bible Teach Us?

Sut i Ddefnyddio What Can the Bible Teach Us?

Mae’r llyfr Teach Us a’r Beibl Ddysgu yn debyg i’w gilydd. Mae’r ddau dwlsyn o’n bocs tŵls addysgu yn cyflwyno’r un gwirioneddau ac yn yr un drefn. Ond, mae’r llyfr Teach Us yn defnyddio geiriau a rhesymeg fwy syml. Mae’r llyfr wedi cael ei gynllunio ar gyfer y rhai sy’n ei chael hi’n anodd deall y llyfr Beibl Ddysgu. Yn lle atodiad, mae gan y llyfr Teach Us ôl-nodion sy’n esbonio’n syml rhai o’r termau a’r cysyniadau yn y prif destun. Does gan y penodau ddim cwestiynau agoriadol na blwch adolygu. Yn lle hynny, maen nhw’n diweddu gyda chrynodeb o wirioneddau’r Beibl a gafodd eu hesbonio yn y prif destun. Fel yn achos y llyfr Beibl Ddysgu, cawn gynnig y llyfr Teach Us ar unrhyw adeg, hyd yn oed pan nad yw’n gynnig y mis. Sut cawn ni ddefnyddio nodweddion arbennig y llyfr Teach Us wrth gynnal astudiaeth Feiblaidd?

CRYNODEB: I’r rhan fwyaf, bydd ein ffordd arferol o gynnal astudiaeth sef darllen y paragraff yn y llyfr Beibl Ddysgu ac yna gofyn y cwestiwn yn ddigon da. Dyweda fod gen ti fyfyriwr a hwnnw heb fod yn rhugl yn yr iaith neu ddim yn ddarllenwr da. Pryd hynny, cei ddewis defnyddio’r llyfr Teach Us. Yna cei ddefnyddio’r crynodebau yn sail i’r astudiaeth ac fe gei di annog y myfyriwr i ddarllen y prif destun ar ei ben ei hun. Fel arfer gall un o wirioneddau’r Beibl gael ei ddysgu mewn sesiwn astudio sy’n para rhyw 15 munud. Gan nad yw’r crynodebau yn cynnwys manylion y prif destun, mae’n rhaid i’r athro baratoi yn dda, gan gofio anghenion y myfyriwr. Os bydd yr athro yn cynnal yr astudiaeth o’r prif destun, gellir defnyddio’r crynodebau yn adolygiad iddi.

ÔL-NODION: Mae’r termau a chysyniadau yn yr ôl-nodion yn ymddangos yn yr un drefn â’r prif destun. Caiff yr athro benderfynu trafod yr ôl-nodion yn y llyfr Teach Us yn ystod yr astudiaeth neu beidio.