Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Bobl Ifanc—Peidiwch â Dal yn ôl Rhag Manteisio ar y “Cyfle i Wneud Gwaith Mawr”

Bobl Ifanc—Peidiwch â Dal yn ôl Rhag Manteisio ar y “Cyfle i Wneud Gwaith Mawr”

Digon hawdd yw meddwl y bydd dyddiau ein hieuenctid yn para am byth a welwn ni fyth mo’r “dyddiau anodd” sy’n dod gyda henaint byd Satan. (Pre 12:1) Os wyt yn berson ifanc, elli di ei chymryd yn ganiataol y bydd gen ti ddigon o amser i fynd ar ôl nod ysbrydol fel y weinidogaeth llawn amser?

Ond “mae damweiniau’n gallu digwydd i bawb,” gan gynnwys pobl ifanc. (Pre 9:11) “Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory!” (Iag 4:14) Felly, paid â chadw nod ysbrydol yn ei ôl heb fod eisiau. Manteisia ar y “cyfle i wneud gwaith mawr” tra bod y cyfle hwnnw ar gael. (1Co 16:9) Fyddi di ddim yn difaru.

Ambell nod ysbrydol i anelu ato:

  • Pregethu mewn iaith arall

  • Arloesi

  • Mynd i ysgolion theocrataidd

  • Gwasanaeth adeiladu

  • Gwasanaeth Bethel

  • Gwasanaethu’r gylchdaith

Gwna restr o’th nodau ysbrydol.