Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | DIARHEBION 27-31

Mae’r Beibl yn Disgrifio Gwraig Dda

Mae’r Beibl yn Disgrifio Gwraig Dda

Mae gan Diarhebion pennod 31 neges bwysfawr i’r Brenin Lemwel oddi wrth ei fam. Fe wnaeth ei chyngor doeth ei ddysgu beth i edrych amdano mewn gwraig dda.

Mae modd ymddiried mewn gwraig dda

31:10-12

  • Mae ganddi awgrymiadau da i’w rhannu ym mhenderfyniadau’r teulu, ond ar yr un pryd yn ymostwng i’w gŵr

  • Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi i wneud penderfyniadau doeth, heb fynnu iddi ofyn am ei ganiatâd ym mhob mater

Mae gwraig dda yn weithgar

31:13-27

  • Mae hi’n dysgu bod yn ofalus gydag arian gan fyw’n gynnil er mwyn i’w theulu gael dillad taclus, gweddus, a chael bwyd maethlon

  • Mae hi’n gweithio’n galed gan ofalu am ei theulu ddydd a nos

Mae gwraig dda yn ysbrydol

31:30

  • Mae hi’n ofni Duw ac yn meithrin perthynas agos ag ef