Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

“Mae ei Gŵr yn Adnabyddus ar Gyngor y Ddinas”

“Mae ei Gŵr yn Adnabyddus ar Gyngor y Ddinas”

Mae gwraig dda yn adlewyrchu’n dda ar ei gŵr. Yn nyddiau’r Brenin Lemwel, roedd gŵr gyda gwraig dda “yn adnabyddus ar gyngor y ddinas.” (Dia 31:23) Heddiw, mae dynion mawr eu parch yn henuriaid ac yn weision gweinidogaethol. Os ydyn nhw’n briod, mae eu gallu i wasanaethu yn dibynnu’n fawr ar ymddygiad da a chefnogaeth eu gwragedd. (1Ti 3:4, 11) Mae gwragedd da fel hyn yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, nid yn unig gan eu gwŷr, ond gan y gynulleidfa hefyd.

Mae gwraig dda yn helpu ei gŵr i wasanaethu drwy . . .

  • ei annog â geiriau caredig.—Dia 31:26

  • bod yn barod i rannu ei gŵr gyda’r gynulleidfa.—1The 2:7, 8

  • bod yn fodlon ar ffordd syml o fyw.—1Ti 6:8

  • peidio â gofyn am fanylion cyfrinachol y gynulleidfa.—1Ti 2:11, 12; 1Pe 4:15