Dw i’n Gwybod am Dy Weithredoedd
-
“Y saith seren”: Henuriaid eneiniog, ac o ganlyniad, yr henuriaid i gyd
-
Yn “llaw dde” Iesu: Mae’r sêr o dan reolaeth, awdurdod, ac arweiniad Iesu. Os oes rhaid i un o’r henuriaid gael ei gywiro, bydd Iesu yn gwneud yn siŵr bod hyn yn cael ei wneud yn ei amser a’i ffordd ef
-
“Y saith canhwyllbren aur”: Y cynulleidfaoedd Cristnogol. Fel roedd y golau yn tywynnu o’r canhwyllbren yn y tabernacl, mae golau ysbrydol yn llewyrchu o’r gynulleidfa Gristnogol. (Mth 5:14) Mae Iesu yn “cerdded rhwng” y canwyllbrennau drwy arolygu gwaith y cynulleidfaoedd i gyd