EIN BYWYD CRISTNOGOL
Paid â Dilyn Agwedd y Byd Wrth Drefnu Dy Briodas
Mae’n rhaid i gyplau Cristnogol wneud llawer o benderfyniadau wrth drefnu eu priodas. Efallai eu bod nhw’n teimlo o dan bwysau i ddilyn traddodiadau’r gymdeithas a chael priodas fawr a chrand. Mae’n debyg bydd gan deulu a ffrindiau eu syniadau eu hunain o’r hyn dylen nhw ei wneud. Pa egwyddorion Beiblaidd fydd yn eu helpu nhw i baratoi am y diwrnod mawr er mwyn iddyn nhw gael cydwybod lân heb ddifaru dim?
GWYLIA’R FIDEO WEDDINGS THAT HONOR JEHOVAH, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut gwnaeth yr egwyddorion Beiblaidd hyn helpu Nick a Juliana?
-
Pam y dylai cyplau sydd wedi dyweddïo ddewis brawd sy’n aeddfed yn ysbrydol i fod yn “llywydd y wledd”?—In 2:9, 10.
-
Pa benderfyniadau personol a wnaeth Nick a Juliana ynglŷn â’u priodas, a pham?
-
Pwy sy’n cael y gair olaf wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â’r seremoni a’r wledd briodas?—w06-E 10/15 25 ¶10.