EXODUS 39-40
TRYSORAU O AIR DUW |Dilynodd Moses Gyfarwyddiadau yn Ofalus
39:32, 43; 40:1, 2, 16
Roedd Moses yn drylwyr wrth ddilyn cyfarwyddiadau Jehofa am sut i adeiladu a gosod y tabernacl. Dylen ninnau hefyd wrando ar unrhyw gyfarwyddiadau oddi wrth gyfundrefn Jehofa ac ufuddhau yn brydlon a chyda’n holl galon. Mae hyn yn wir hyd yn oed os dydyn ni ddim yn deall y rheswm tu ôl i’r cyfarwyddiadau neu dydyn nhw ddim i’w gweld yn bwysig.—Lc 16:10.
Pam dylen ni wrando ar gyfarwyddiadau a’u dilyn nhw’n ofalus ynglŷn â . . .
-
threfniadau ar gyfer y weinidogaeth?
-
paratoi am argyfyngau meddygol?
-
bod yn barod ar gyfer trychinebau?