Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | LEFITICUS 8-9

Tystiolaeth o Fendith Jehofa

Tystiolaeth o Fendith Jehofa

8:6-9, 12; 9:1-5, 23, 24

Yn fuan ar ôl i offeiriadaeth Aaron gael ei sefydlu, anfonodd Jehofa dân i  losgi’r aberth cyntaf a chafodd ei offrymu. Dangosodd hyn fod Jehofa’n cefnogi ac yn cymeradwyo’r drefn hon. Roedd Jehofa felly yn annog yr Israeliaid oedd wedi dod ynghyd i gefnogi’r offeiriadaeth yn llwyr. Heddiw, mae Jehofa yn defnyddio Iesu Grist fel yr Archoffeiriad mwyaf. (Heb 9:11, 12) Ym 1919, apwyntiodd Iesu grŵp o ddynion eneiniog fel y “gwas ffyddlon a chall.” (Mth 24:45, BCND) Beth sy’n dangos bod Jehofa yn bendithio, yn cefnogi, ac yn cymeradwyo’r gwas ffyddlon?

  • Er gwaethaf erledigaeth barhaol, mae’r gwas ffyddlon wedi parhau i ddarparu bwyd ysbrydol

  • Fel y rhagfynegwyd, mae’r newyddion da yn cael ei gyhoeddi “drwy’r byd i gyd.”—Mth 24:14

Sut gallwn ni gefnogi’r gwas ffyddlon a chall yn llwyr?