RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH | CAEL MWY O LAWENYDD YN Y WEINIDOGAETH
Dysga Fyfyrwyr y Beibl i Fwydo Eu Hunain yn Ysbrydol
Er mwyn i fyfyrwyr y Beibl ddod i adnabod Jehofa ac aeddfedu’n ysbrydol, mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu mwy na’r gwirioneddau rydyn ni’n eu dysgu iddyn nhw. (Heb 5:12–6:2) Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd ddysgu sut i fwydo eu hunain yn ysbrydol.
O’r wers gyntaf, dangosa i dy fyfyrwyr sut i baratoi ar gyfer yr astudiaeth, a’u hannog nhw i wneud hynny. (mwb18.03 6) Anoga nhw i weddïo cyn pob sesiwn o astudiaeth bersonol. Helpa nhw i ddefnyddio tŵls digidol ar gyfer astudio. Esbonia sut i ddod o hyd i beth sy’n newydd ar jw.org ac ar JW Broadcasting®. Yn raddol, dysga iddyn nhw i ddarllen y Beibl bob dydd, i baratoi ar gyfer cyfarfodydd y gynulleidfa, ac i ymchwilio atebion i’w cwestiynau. Helpa nhw i fyfyrio ar beth maen nhw’n ei ddysgu.
GWYLIA’R FIDEO HELPA FYFYRWYR Y BEIBL I’W BWYDO EU HUNAIN YN YSBRYDOL, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut gwnaeth Neeta helpu Lili i weld bod astudio yn golygu mwy na gwybod yr atebion?
-
Beth berswadiodd Lili fod safonau Jehofa ynglŷn ag anfoesoldeb rhywiol yn gywir?
-
Beth sylweddolodd Lili am fyfyrio?