Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Aseiniad Anodd Iawn yn Cael ei Gwblhau Drwy’r Ysbryd Glân

Aseiniad Anodd Iawn yn Cael ei Gwblhau Drwy’r Ysbryd Glân

Drwy gydol hanes, mae gweision Duw wedi cyflawni pethau rhyfeddol, nid oherwydd eu gallu eu hunain, ond oherwydd help Jehofa. Ym 1954, gwnaeth cyfundrefn Jehofa ryddhau ffilm o’r enw The New World Society in Action. Cafodd ei chynhyrchu yn bennaf gan aelodau’r Bethel a oedd heb unrhyw brofiad yn creu ffilmiau. Dim ond drwy ysbryd glân Jehofa cafodd y prosiect anodd iawn ei gyflawni. Mae hyn yn rhoi hyder inni y gallwn ni gwblhau unrhyw aseiniad yn llwyddiannus os ydyn ni’n dibynnu ar Jehofa.—Sech 4:6.

GWYLIA’R FIDEO PRODUCING “THE NEW WORLD SOCIETY IN ACTION,” AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam cafodd y penderfyniad ei wneud i greu ffilm am y pencadlys?

  • Sut roedd y ffilm yn dangos bod y Bethel yn debyg i’r corff?—1Co 12:14-20

  • Pa anawsterau wynebodd y brodyr wrth greu’r ffilm, a sut gwnaethon nhw lwyddo?

  • Beth gallwn ni ei ddysgu am ysbryd glân Jehofa o’r profiad hwn?