Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Wynebu Diwedd y System Hon yn Hyderus

Wynebu Diwedd y System Hon yn Hyderus

Yn fuan iawn bydd Jehofa yn stopio bod yn amyneddgar gyda’r byd hwn. Bydd gau grefydd yn cael ei dinistrio, bydd cynghrair o genhedloedd yn ymosod ar bobl Dduw, a bydd Jehofa yn lladd y drygionus yn Armagedon. Mae Cristnogion yn edrych ymlaen at y digwyddiadau pwysig a chyffrous hyn.

Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn gwybod pob manylyn am y gorthrymder mawr. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn gwybod yn union pryd bydd yn dechrau. Dydyn ni ddim yn gwybod pa resymau bydd y grymoedd gwleidyddol yn eu rhoi er mwyn cyfiawnhau ymosod ar grefyddau. Dydyn ni ddim yn gwybod am ba hyd fydd y cenhedloedd yn ymosod ar bobl Dduw, na beth fydd hynny’n ei gynnwys. Hefyd, dydyn ni ddim yn gwybod yn union sut bydd Jehofa’n dinistrio’r drygionus yn ystod Armagedon.

Ond, mae’r ysgrythurau yn rhoi’r holl wybodaeth rydyn ni ei hangen er mwyn wynebu’r dyfodol â hyder a dewrder. Er enghraifft, rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n byw ar ddiwedd y “cyfnod olaf.” (2Ti 3:1) Rydyn ni’n gwybod bydd yr ymosodiad ar grefydd yn cael ei dorri’n fyr i sicrhau na fydd y wir grefydd yn cael ei dinistrio. (Mth 24:22) Rydyn ni’n gwybod bydd Jehofa yn achub ei bobl. (2Pe 2:9) Ac rydyn ni’n gwybod mai cyfiawn a phwerus yw’r un mae Jehofa wedi ei ddewis i ladd y drygionus a chadw’r dyrfa fawr yn fyw drwy Armagedon.—Dat 19:11, 15, 16.

Bydd digwyddiadau yn y dyfodol yn siŵr o wneud i bobl ‘lewygu mewn dychryn.’ Fodd bynnag, drwy ddarllen a myfyrio ar y ffyrdd mae Jehofa wedi achub ei bobl yn y gorffennol ac ar beth mae wedi ei ddatgelu am y dyfodol, gallwn ‘sefyll ar ein traed a dal ein pennau’n uchel,’ yn hyderus bod ein gwaredigaeth yn agos.—Lc 21:26, 28.