EIN BYWYD CRISTNOGOL
Mae Jehofa’n Trysori Ein Gweddïau
Mae gweddïau derbyniol yn debyg i’r arogldarth hyfryd a oedd yn cael ei losgi’n rheolaidd o flaen Jehofa yn y deml. (Sal 141:2) Pan ydyn ni’n mynegi i Jehofa gymaint rydyn ni’n ei garu a’i werthfawrogi, yn dweud wrtho am ein pryderon a’n dymuniadau, ac yn gofyn iddo am ei arweiniad, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n trysori ein perthynas ag ef. Wrth gwrs, yng ngolwg Jehofa, mae gweddïau byr cyhoeddus yn ein cyfarfodydd yn rhan bwysig o’n haddoliad. Ond, mae’n rhaid bod Jehofa’n hapus iawn pan ydyn ni’n agor ein calonnau iddo yn ein gweddïau personol a siarad ag ef am gyfnodau hir! —Dia 15:8.
GWYLIA’R FIDEO I AM DEVOTED TO PRAYER, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pa freintiau mae’r Brawd Johnson wedi eu mwynhau?
-
Sut mae’r Brawd Johnson wedi dibynnu ar Jehofa mewn gweddi?
-
Pa wersi ddysgaist ti o brofiadau’r Brawd Johnson?