EIN BYWYD CRISTNOGOL
Ffyddlondeb a’n Meddyliau
Rydyn ni’n dangos ffyddlondeb drwy’r pethau rydyn ni’n eu dweud a’u gwneud, ond hefyd drwy’r pethau rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw. (Sal 19:14) Felly, mae’r Beibl yn ein hannog ni i feddwl am bethau sy’n wir, sy’n bwysig, sy’n gyfiawn, sy’n bur, sy’n hyrwyddo cariad, sy’n anrhydeddus, sy’n ddaionus, ac sy’n haeddu canmoliaeth. (Php 4:8) Wrth gwrs, allwn ni ddim bob tro atal pethau drwg rhag dod i’n meddyliau. Ond gall hunanreolaeth ein helpu ni i ddisodli meddyliau drwg ac i feddwl am bethau llesol. Bydd bod yn ffyddlon yn ein meddyliau yn ein helpu ni i fod yn ffyddlon yn ein gweithredoedd.—Mc 7:21-23.
O dan yr adnodau canlynol, ysgrifenna pa fathau o feddyliau y dylen ni eu hosgoi: