TRYSORAU O AIR DUW
Paid ag Efelychu Eliffas Wrth Roi Cysur
Dywedodd Eliffas wrth Job na fyddai pobl byth yn gallu plesio Duw (Job 15:14-16; w05-E 9/15 26 ¶4-5)
Awgrymodd Eliffas fod Job yn ddrwg a dyna pam roedd ef yn dioddef (Job 15:20)
Nid oedd geiriau Eliffas yn cysuro Job (Job 16:1, 2)
Roedd yr hyn a ddywedodd Eliffas yn gelwydd. Mae Jehofa yn gwerthfawrogi ein hymdrechion i’w wasanaethu. (Sal 149:4) Gall hyd yn oed y cyfiawn ddisgwyl dioddef problemau.—Sal 34:19.
MYFYRIA AR HYN: Sut gallwn ni “siarad yn gysurlon â’r rhai sy’n isel eu hysbryd”?—1Th 5:14; w15-E 2/15 9 ¶16.