EIN BYWYD CRISTNOGOL
‘Rhoi Rhywbeth o’r Neilltu’
Dydy cyfrannu’n wirfoddol ddim yn digwydd ar hap a damwain. Felly, dylen ni roi “rhywbeth o’r neilltu” yn rheolaidd, fel roedd yr apostol Paul yn argymell. (1Co 16:2) Mae dilyn y cyngor ysbrydoledig hwn yn ein helpu ni i gefnogi addoliad pur ac yn dod â llawenydd i ni. Hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo bod ein cyfraniadau yn ddibwys, mae Jehofa yn gwerthfawrogi ein hawydd i ddefnyddio ein cyfoeth i’w anrhydeddu.—Dia 3:9.
GWYLIA’R FIDEO DIOLCH AM ROI RHYWBETH O’R NEILLTU, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pa fendithion sy’n dod o gynllunio ein cyfraniadau ariannol?
-
Sut mae rhai wedi trefnu ‘rhoi rhywbeth o’r neilltu’?