Rhagfyr 23-29
SALM 119:121-176
Cân 31 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
1. Sut i Osgoi Bod yn Drist Heb Angen
(10 mun.)
Caru gorchmynion Duw (Sal 119:127; w18.06 16 ¶5-6)
Casáu drygioni (Sal 119:128; w93-E 4/15 17 ¶12)
Gwrando ar Jehofa ac osgoi camgymeriadau’r rhai dibrofiad (Sal 119:130, 133; Dia 22:3)
GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Er mwyn cryfhau fy nghariad at orchmynion Duw a chasáu drygioni yn fwy, beth mae’n rhaid imi ei wneud?’
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
-
Sal 119:160—Yn unol â’r adnod hon, beth sy’n rhaid inni fod yn hyderus ohono? (w23.01 2 ¶2)
-
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Sal 119:121-152 (th gwers 2)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. (lmd gwers 1 pwynt 5)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) O DŶ I DŶ. Dangosa i’r deiliad sut i ddod o hyd i wybodaeth ar jw.org a fydd o ddiddordeb iddo. (lmd gwers 8 pwynt 3)
6. Gwneud Disgyblion
(5 mun.) Trafodaeth gyda rhywun sy’n astudio’r Beibl ond sydd ddim yn mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd. (lmd gwers 12 pwynt 4)
Cân 121
7. Paid â Gadael i Arian Achosi Poen Ddiangen
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae’r rhai sy’n estyn allan at gariad at arian wedi “eu trywanu eu hunain . . . â llawer o boenau.” (1Ti 6:9, 10) Dyma’r canlyniadau drwg all ddod o garu arian a’i ystyried yn rhy bwysig.
-
Fyddwn ni ddim yn gallu cael perthynas agos â Jehofa.—Mth 6:24
-
Fyddwn ni byth yn fodlon.—Pre 5:10
-
Bydd yn haws inni gael ein temtio i wneud pethau fel dweud celwydd, dwyn, neu fradychu. (Dia 28:20) Bydd gwneud pethau fel hyn yn achosi inni deimlo’n euog yn ogystal â cholli ein henw da a ffafr Duw
Darllen Hebreaid 13:5, ac yna trafoda’r cwestiwn hwn:
-
Pa agwedd tuag at arian a fydd yn ein helpu ni i osgoi poen emosiynol, a pham?
Os nad ydyn ni’n ofalus gydag arian, bydd yn achosi problemau inni hyd yn oed os nad ydyn ni’n ei garu.
Dangosa’r ANIMEIDDIAD BWRDD GWYN Gwna Ddefnydd Da o Dy Arian. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
-
Pam dylen ni greu cynllun ynglŷn â gwario arian, a sut gallwn ni wneud hynny?
-
Pam mae’n dda i safio arian?
-
Pam mae’n ddoeth i osgoi dyled ddiangen?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 8 ¶13-21