Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tachwedd 18-24

SALMAU 107-108

Tachwedd 18-24

Cân 7 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. “Diolchwch i’r ARGLWYDD! Mae e Mor Dda Aton Ni!”

(10 mun.)

Gwnaeth Jehofa achub yr Israeliaid o Fabilon, ac mae wedi ein hachub ni o fyd Satan (Sal 107:​1, 2; Col 1:​13, 14)

Mae ein diolchgarwch yn ein cymell ni i foli Jehofa yn y gynulleidfa (Sal 107:​31, 32; w07-E 4/15 20 ¶2)

Gallwn ni feithrin diolchgarwch drwy feddwl am weithredoedd cariadus Jehofa (Sal 107:43; w15-E 1/15 9 ¶4)

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 108:9—Pan mae’r Beibl yn sôn am Moab fel “powlen ymolchi,” beth efallai mae’n cyfeirio ato? (it-2-E 420 ¶4)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 107:​1-28 (th gwers 5)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. (lmd gwers 1 pwynt 4)

5. Parhau â’r Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Sonia am ein rhaglen astudio’r Beibl, a rho gerdyn cyswllt sy’n cynnig cwrs Beiblaidd. (lmd gwers 9 pwynt 3)

6. Anerchiad

(5 mun.) ijwyp 90—Sut Galla i Osgoi Meddyliau Negyddol? (th gwers 14)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 46

7. Rydyn Ni’n Canu i Roi Diolch i Jehofa

(15 mun.) Trafodaeth.

Ar ôl i’r Israeliaid gael eu hachub gan Jehofa rhag byddin bwerus yr Aifft, gwnaeth diolchgarwch eu cymell nhw i ganu. (Ex 15:​1-19) Cymerodd y dynion y blaen yn y gân. (Ex 15:21) Roedd Iesu a’r Cristnogion cynnar hefyd yn canu mawl i Dduw. (Mth 26:30; Col 3:16) Rydyn ni’n dal yn dangos ein diolch i Jehofa drwy ganu yn ystod ein cyfarfodydd, ein cynulliadau, a’n cynadleddau. Er enghraifft, mae’r gân rydyn ni newydd ganu, “Diolchwn i Ti, Jehofa,” wedi cael ei chanu yn ein cyfarfodydd ers 1966.

Mewn rhai diwylliannau, gall canu’n gyhoeddus godi cywilydd ar ddynion. Mae eraill yn dal yn ôl rhag canu, gan deimlo bod ganddyn nhw leisiau gwael. Ond, cofia fod canu yn ein cyfarfodydd yn rhan o’n haddoliad. Mae cyfundrefn Jehofa wedi gweithio’n galed i gyfansoddi caneuon hyfryd i’w canu yn ein cyfarfodydd bob wythnos. Y cyfan y mae’n rhaid inni ei wneud ydy codi ein lleisiau i fynegi ein cariad a’n diolchgarwch am ein Tad nefol.

Dangosa’r FIDEO Our History in Motion—The Gift of Song, Part 2. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Beth ddigwyddodd ym 1944?

  • Sut gwnaeth ein brodyr yn Siberia ddangos eu bod nhw’n caru caneuon y Deyrnas?

  • Pam mae canu mor bwysig i Dystion Jehofa?

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 69 a Gweddi