A Fydd y Byd yn Goroesi?
A Fydd y Byd yn Goroesi?
Does yr un genhedlaeth arall erioed wedi clywed gymaint o sôn am ddiwedd y byd. Mae llawer o bobl yn ofni bydd y byd yn dod i ben mewn rhyfel niwclear. Mae rhai yn meddwl efallai bydd llygredd yn dinistrio’r byd, ac eraill yn poeni bydd problemau mawr economaidd yn gwneud i bobl droi yn erbyn ei gilydd.
Petai’r byd hwn yn dod i ben, beth fyddai hyn yn ei olygu? A oes yna fyd wedi dod i ben o’r blaen?
Hen Fyd Yn Dod i Ben, Un Newydd Yn ei Le
Do, fe ddaeth hen fyd i ben. Ystyriwch y byd a aeth yn ddrwg iawn yn nyddiau Noa. Mae’r Beibl yn egluro mai drwy “ddŵr y dinistriwyd byd yr oes honno, sef dŵr y dilyw.” Mae’r Beibl hefyd yn dweud: “Nid arbedodd [Duw] yr hen fyd chwaith, er iddo ddiogelu Noa, pregethwr cyfiawnder, ynghyd â saith arall, wrth ddwyn y dilyw ar fyd y rhai annuwiol.”—2 Pedr 2:5; 3:6.
Sylwch ar beth roedd diwedd y byd hynny yn ei olygu, ond hefyd beth nad oedd yn ei olygu. Nid oedd yn golygu diwedd ar y ddynoliaeth. Goroesodd Noa a’i deulu’r Dilyw. Hefyd, fe oroesodd y ddaear a’r bydysawd. Trefn ddrygionus a gafodd ei dinistrio, sef ‘byd y rhai annuwiol.’
Ymhen hir a hwyr, wrth i ddisgynyddion Noa ledaenu drwy’r byd, datblygodd fyd newydd. Mae’r ail fyd neu drefn yn dal i fodoli. Mae ei hanes yn llawn rhyfel, trosedd, a thrais. Beth fydd yn digwydd i’r byd hwn? A fydd yn goroesi?
Dyfodol Y Byd Hwn
Ar ôl dweud bod y byd yn nyddiau Noa wedi cael ei ddinistrio, mae’r Beibl yn ychwanegu: “Gan yr un gair hefyd y mae nefoedd a daear yr oes hon wedi eu gosod mewn stôr 2 Pedr 3:7) Mae ysgrifennwr arall y Beibl yn egluro: “Y mae’r byd [yr un sy’n bodoli heddiw] . . . yn mynd heibio.”—1 Ioan 2:17.
ar gyfer y tân.” (Nid yw’r Beibl yn golygu bod y ddaear na’r nefoedd lythrennol yn mynd heibio, gan na ddigwyddodd hyn yn nyddiau Noa. (Salm 104:5) Yn hytrach, bydd y byd hwn gyda’i “nefoedd” a’i “ddaear” yn cael ei ddinistrio fel petai gan dân, hynny yw’r arweinwyr gwleidyddol a’r bobl dan ddylanwad Satan. (Ioan 14:30; 2 Corinthiaid 4:4) Gallwn ni fod yn sicr bydd y byd, neu’r drefn, yn darfod fel y digwyddodd cyn y Dilyw. Fe wnaeth hyd yn oed Iesu Grist sôn am y sefyllfa yn “nyddiau Noa” fel esiampl o beth oedd yn mynd i ddigwydd cyn diwedd y byd hwn.—Mathew 24:37-39.
Pan siaradodd Iesu am ddyddiau Noa, roedd yn ateb cwestiwn ei apostolion: “Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd?” (Mathew 24:3, Y Beibl Cysegr-Lân) Roedd dilynwyr Iesu yn gwybod y byddai’r byd hwn yn dod i ben. A oedd hyn yn codi ofn arnyn nhw?
Nac oedd. I’r gwrthwyneb, pan ddisgrifiodd Iesu’r hyn fyddai’n digwydd cyn diwedd y byd, fe wnaeth Iesu eu hannog nhw i lawenhau oherwydd roedd eu ‘rhyddhad yn agosáu.’ (Luc 21:28) Ie, rhyddhad o Satan a’i drefn ddrygionus i fywyd mewn byd newydd heddychlon!—2 Pedr 3:13.
Ond pryd bydd diwedd y byd hwn yn dod? Pa “arwydd” roddodd Iesu am ei “ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd”?
“Yr Arwydd”
Y gair Groeg sydd wedi ei gyfieithu fel ‘dyfodiad’ yw pa·rw·siʹa, ac mae’n golygu presenoldeb. Felly, pan welir “yr arwydd,” ni fyddai’n golygu bod Crist am ddod, ond ei fod wedi Datguddiad 12:7-12; Salm 110:1, 2.
dychwelyd yn barod, a’i fod yn bresennol. Byddai’r “arwydd” yn dangos bod Iesu wedi dechrau teyrnasu’n anweladwy yn y nefoedd a’i fod am ddinistrio ei elynion cyn bo hir.—Rhybuddiodd Iesu am “yr arwydd,” roedd hwn yn cynnwys sawl ddigwyddiad. Fe ddisgrifiodd lawer o ddigwyddiadau ac amgylchiadau ar draws y byd. Byddai’r rhain i gyd yn digwydd yn ystod yr amser mae’r Beibl yn ei alw’n “dyddiau diwethaf.” (2 Timotheus 3:1-5; 2 Pedr 3:3, 4) Ystyriwch rai o’r pethau ragfynegodd Iesu am “y dyddiau diwethaf.”
“Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.” (Mathew 24:7) Mae mwy o ryfeloedd wedi digwydd yn yr oes fodern nag erioed o’r blaen. Dywedodd hanesydd: “Y Rhyfel Byd Cyntaf [a ddechreuodd ym 1914] oedd y rhyfel ‘gyfan’ gyntaf.” Ond eto roedd yr Ail Ryfel Byd yn llawer mwy dinistriol, ac mae rhyfel yn dal i barhau ar y ddaear. Mae geiriau Iesu wedi eu cyflawni mewn ffordd ddramatig!
“Bydd adegau o newyn.” (Mathew 24:7) Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf daeth efallai’r newyn gwaethaf mewn hanes. Hefyd, fe wnaeth newyn ofnadwy ddilyn yr Ail Ryfel Byd. Mae 20 y cant o boblogaeth y byd yn dioddef o ddiffyg maeth, sy’n lladd ryw 14 miliwn o blant bob blwyddyn. Yn wir, rydyn ni wedi gweld “adegau o newyn”!
“Bydd daeargrynfâu dirfawr.” (Luc 21:11) Ar gyfartaledd, mae tua deg gwaith mwy o bobl wedi eu lladd o ganlyniad i ddaeargrynfeydd er 1914 nag yn ystod unrhyw ganrif gynt. Ystyriwch y rhai mwyaf: 1920, Tsieina, 200,000 wedi eu lladd; 1923, Japan, tua 140,000 yn marw neu’n diflannu; 1939, Twrci, 32,700 yn cael eu lladd; 1970, Periw, 66,800 yn colli eu bywydau; ac ym 1976, Tsieina, tua 240,000 (neu yn ôl rhai ffynonellau, 800,000) wedi marw. “Daeargrynfâu dirfawr” yn wir!
Plâu. (Luc 21:11) Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, bu farw tua 21 miliwn o bobl o’r pandemig ffliw ym 1918. Am hynny, adroddodd Science Digest: “Nid oes erioed, yn holl hanes y byd, wedi bod unrhyw farwolaeth galetach na chyflymach.” Ers hynny, mae clefyd y galon, cancr, Afiechyd Imiwnedd Diffygiol [AIDS], a llawer mwy o afiechydon wedi lladd cannoedd o filiynau o bobl.
“Drygioni yn amlhau.” (Mathew 24:12) Mae’r byd er 1914 wedi cael ei adnabod fel un llawn trosedd a thrais. Mewn llawer o leoedd dydy pobl ddim yn teimlo’n ddiogel, hyd yn oed yn ystod y dydd. Gyda’r nos mae pobl yn aros yn eu cartrefi ac yn cloi eu drysau gan eu bod nhw’n ofni mynd allan.
Mae nifer o bethau eraill wedi eu rhagfynegi i ddigwydd yn ystod y dyddiau diwethaf, ac mae’r rhain hefyd yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn golygu bod diwedd y byd yn agos. Ond, bydd yna oroeswyr. Ar ôl dweud bod y byd “yn mynd heibio,” mae’r Beibl yn addo: 1 Ioan 2:17.
“Y mae’r sawl sy’n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.”—Felly, mae angen inni ddysgu am ewyllys Duw, a’i ddilyn. Ac wedyn bydden ni’n gallu goroesi diwedd y byd hwn a mwynhau bywyd tragwyddol a bendithion byd newydd Duw. Mae’r Beibl yn addo, yr adeg honno “fe sych [Duw] bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”—Datguddiad 21:3, 4.
Oni nodir yn wahanol, daw’r dyfyniadau Ysgrythurol o’r Beibl Cymraeg Newydd Argraffiad Diwygiedig.
[Llinell cydnabod llun ar dudalen 6]
Cydnabod Ffotograffau: Awyren: Ffotograff USAF. Plentyn: Ffotograff WHO gan W. Cutting. Daeargryn: Y. Ishiyama, Hokkaido University, Japan.